Datganiad hygyrchedd ar gyfer y Gofrestr Elusennau

Mae'r datganiad hwn yn gymwys ar gyfer cynnwys a gyhoeddir ar ein Cofrestr Elusennau. Nid yw’n gymwys ar gyfer gwasanaethau digidol eraill.

Cynhelir y gwasanaeth hwn gan y Comisiwn Elusennau ar gyfer Lloegr a Chymru. Rydym am i gynifer o bobl ag sy’n bosibl ddefnyddio'r gwasanaeth hwn. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech fod yn gallu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • chwyddo mewn hyd at 300% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrîn (heb gynnwys testun o fewn fformat tabl)
  • llywio’r rhan fwyaf o’r gwasanaeth gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r gwasanaeth gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r gwasanaeth gan ddefnyddio darllenydd sgrîn (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Mae gan AbilityNet gyngor ynghylch gwneud dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

 

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • ni fydd y testun yn ail-lifo mewn colofn unigol pan fyddwch yn newid maint ffenestr y porwr
  • ni allwch addasu uchder y llinell neu fylchiad y testun
  • nid yw’r rhan fwyaf o’r dogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin
  • ni allwch neidio i’r prif gynnwys wrth ddefnyddio darllenydd sgrîn
  • nid oes penynnau rhes gan rai tablau
  • mae gan rai tudalennau gyferbynnedd lliw nad ydynt yn bodloni safonau WCAG
  • nid oes gan rai delweddau destun amgen da
  • ni nodir rhai botymau’n gywir

Mae’r rhan fwyaf o’r safle’n gwbl hygyrch gan gynnwys ar gyfer darllenwyr sgrîn a’r rhai hynny sy’n defnyddio technoleg gynorthwyol. Mae hyn yn cynnwys defnyddio testun amgen ar gyfer dolenni, delweddau a botymau. Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan yn hawdd i’w deall.

 

Sut i ofyn am gynnwys mewn fformat hygyrch

Os bydd angen gwybodaeth arnoch mewn fformat gwahanol cysylltwch â ni a dywedwch wrthym:

  • gyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
  • eich enw a chyfeiriad e-bost

 

Adrodd am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau na restrir ar y dudalen hon neu eich bod yn meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt ar:

0300 066 9197

Ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm

 

Gweithdrefn orfodi

Os byddwch yn cysylltu â ni gyda chwyn ac nad ydych yn hapus â’n hymateb ccysylltwch â’r Gwasanaeth Ymgynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).

 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae’r Comisiwn Elusennau ar gyfer Lloegr a Chymru’n ymrwymo y bydd yn gwneud ei wefannau’n hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) 2018.

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, oherwydd ‘y diffyg cydymffurfio ac eithriadau’ a restrir isod.

 

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Amlinellir y cynnwys nad yw’n hygyrch isod gyda manylion:

  • lle mae’n methu'r meini prawf llwyddo
  • dyddiadau a gynllunnir ar gyfer pan fydd materion yn cael eu datrys

Nid oes gan rai tablau mewn cynnwys benynnau rhes tabl pan fydd eu hangen. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd) WCAG 2.1A. Mae hyn yn gyfyngiad o’r offeryn cyhoeddi rydym yn bwriadu ei gywiro yn y dyfodol.

Nid oes gan ddolenni a botymau ffocws ddigon o gyferbynnedd weithiau. Mae hyn yn methu AA 1.4.11 WCAG (Cyferbynnedd nad yw’n destun). Rydym yn bwriadu cywiro hyn yn y dyfodol.

Nid yw llawer o’n PDFs yn bodloni safonau hygyrchedd - er enghraifft, mae’n bosibl nad oes strwythur ganddynt fel eu bod yn hygyrch i ddarllenydd sgrîn. Nid yw hyn yn bodloni meini prawf 4.1.2 WCAG 2.1 (enw, rôl, gwerth). Rydym yn ymchwilio i ateb i’r broblem hon a byddwn yn diweddaru’r datganiad hwn maes o law.

 

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Mae rhai o’n PDFs a dogfennau Word yn hanfodol er mwyn darparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym PDFs gyda gwybodaeth am gyfrifon elusennau.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn gofyn i ni gywiro PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu cywiro dogfennau PDF cyfrif elusennau a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018.

 

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 28 Medi 2020. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 19 Ebrill 2021.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 16 Ebrill 2021. Cynhaliwyd y prawf gan Nomensa.

Cynhaliwyd archwiliad llawn ar 10 o fathau-tudalen unigryw ar y gofrestr, gan sicrhau bod pob swyddogaeth ar y wefan yn ddarostyngedig i brawf. Dewiswyd y tudalennau hyn gan y Comisiwn Elusennau. Cynhaliwyd yr archwiliad ar fwrdd gwaith cyfrifiadur personol gan ddefnyddio Google Chrome.