Manylion am gwcis ar blatfformau’r Comisiwn Elusennau

Mae’r Comisiwn Elusennau yn defnyddio ‘cwcis’ i gasglu gwybodaeth am y ffordd yr ydych yn defnyddio ein gwasanaethau. Dysgwch fwy am y cwcis rydym yn eu defnyddio, beth yw eu pwrpas a phryd fyddant yn dod i ben.

Mae dau fath o gwci:

  • cwcis sesiwn, mae’r rhain yn cael eu dileu pan fyddwch yn cau eich porwr

  • cwcis cyson, mae’r rhain yn para’n hirach ac yn dod i ben ar ôl cyfnod penodol o amser

Cwcis sy’n mesur defnydd o’r wefan

Rydym yn defnyddio meddalwedd Google Analytics (Universal Analytics) i gasglu gwybodaeth ddienw am y ffordd yr ydych yn defnyddio Cofrestr Elusennau a gwasanaethau digidol y Comisiwn Elusennau. Rydym yn gwneud hyn i sicrhau bod ein gwasanaethau a’r wefan yn bodloni anghenion eu defnyddwyr, ac i’n helpu i roi gwelliannau ar waith.

Nid ydym yn caniatáu i Google ddefnyddio neu rannu’r data am y ffordd yr ydych yn defnyddio ein gwasanaethau.

Mae Google Analytics yn casglu gwybodaeth am:

  • y tudalennau yr ydych yn ymweld â nhw

  • pa mor hir rydych chi’n treulio ar bob tudalen

  • sut cyrhaeddoch chi’r gwasanaeth

  • beth fyddwch chi’n ei glicio wrth ymweld â’r safle a/neu ddefnyddio’r gwasanaeth

  • y dolenni rydych chi’n eu hagor mewn e-byst gennym ni

Mae’r data rydym yn ei gasglu ar ymddygiad defnyddwyr yn cael ei ddefnyddio i wella ein gwasanaethau. Er enghraifft, i sicrhau eu bod yn hawdd eu deall, yn hygyrch ac yn cyflawni eu swyddogaeth. Rydym yn cadw’r data am hyd at 2 flynedd at y diben hwn. Mae’r cyfnod hwn yn weithredol o’r pwynt diwethaf yr oeddech yn defnyddio’r wefan. Nid yw Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr yn casglu data gan gwcis a allai fod yn ddull adnabod, megis cyfeiriadau IP.

Mae Google Analytics yn gosod y cwcis canlynol.

Enw Diben Dod i ben

_gid

Cwci Google Analytics a ddefnyddir i adnabod defnyddwyr sy’n pori

24 awr

_ga

Cwci Google Analytics a ddefnyddir i adnabod defnyddwyr sy’n pori

2 flynedd

_gat

Cwci Google Analytics a ddefnyddir i gyfyngu ar ganran y ceisiadau

1 funud

_gat_UA

Cwci Google Analytics a ddefnyddir i gyfyngu ar ganran y ceisiadau

1 funud

 

Yn ogystal, os byddwch yn rhannu dolen at dudalen ar ein gwasanaethau, mae’n bosib y bydd y gwasanaeth rydych yn rhannu’r ddolen arno (megis Facebook) yn gosod cwci. Ni allwn reoli cwcis a osodir gan wefannau eraill - gallwch eu diffodd nhw, ond nid trwom ni.

 

Cwcis sy’n cofio eich gosodiadau

Mae’r cwcis hyn yn gwneud pethau fel cofio eich dewisiadau a’r rhai a roddwyd ar waith, er mwyn gwneud eich profiad o wefan y Comisiwn Elusennau yn un personol.

Cwcis cwbl angenrheidiol

Mae cwcis angenrheidiol yn galluogi swyddogaethau craidd megis diogelwch, rheoli rhwydweithiau a hygyrchedd.

Enw Diben Dod i ben

GUEST_LANGUAGE_ID

Mae hwn yn gosod yr iaith y byddwch yn ei gweld ar y wefan (Cymraeg neu Saesneg)

1 flwyddyn

LFR_SESSION_STATE_20105

Cwci sesiwn defnyddiwr, XXXXX yw ID y defnyddiwr

Pan fyddwch yn cau eich porwr

JSESSIONID

Cael ei ddefnyddio i gynnal sesiwn defnyddiwr dienw ar y gweinydd.

Pan fyddwch yn cau eich porwr

ApplicationGatewayAffinity

Cael ei ddefnyddio i gynnal sesiynau defnyddwyr. Caiff y cwci hwn ei osod gan y wefan hon gan ei bod yn rhedeg ar blatfform cwmwl Windows Azure. Mae’n sicrhau bod traffig porwyr ar-lein yn cael ei gadw ar un gweinydd mewn rhai rhannau o’r wefan.

Pan fyddwch yn cau eich porwr

ApplicationGatewayAffinityCORS

Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio gan Raglen Gateway Windows Azure ochr yn ochr ag ApplicationGatewayAffinity er mwyn cynnal sesiwn ludiog hyd yn oed os yw’r ceisiadau’n dod o leoedd gwahanol (gwybodaeth a dderbynnir gan adnodd gydag enw parth gwahanol).

Pan fyddwch yn cau eich porwr

 

Neges am gwcis

Mae’n bosib y byddwch yn gweld baner pan fyddwch yn ymweld â’r Gofrestr Elusennau a’r Gwasanaethau Digidol yn gofyn i chi dderbyn cwcis neu adolygu eich gosodiadau. Byddwn yn gosod cwcis fel bod eich cyfrifiadur yn gwybod eich bod wedi gweld y faner hon, a bod dim angen ei dangos eto. Bydd hefyd yn arbed eich gosodiadau.

Enw Diben Dod i ben

COOKIE_SUPPORT

Mae hwn yn storio’r dewisiadau a ddewisoch wrth bori’r we

1 flwyddyn

cookie_consent

Mae hwn yn arbed eich gosodiadau cydsyniad cwcis

1 flwyddyn

 

Cwcis a gesglir gan Wasanaethau Digidol y Llywodraeth

Mae’r wefan GOV.UK, sy’n cael ei rhedeg gan Wasanaethau Digidol y Llywodraeth (GDS), yn cynnal holl gynnwys a chanllawiau’r Comisiwn Elusennau, a hefyd yn defnyddio meddalwedd Google Analytics. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a gasglwyd gan GDS yn eu polisi cwcis.

Dysgwch ragor am wybodaeth breifatrwydd gan Google Analytics.

Dysgwch ragor gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am sut i reoli cwcis.

Newidiwch eich gosodiadau

Gallwch newid pa gwcis yr ydych yn fodlon i ni eu defnyddio.